Caniadau John Morris-Jones/Cân y Bedd
← Pan ddiflanno gwrid | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Colli'r Baban → |
CÂN Y BEDD
O, canwn lawen ganig
I'r bedd ac angeu'n awr,
A seinied yn odidog
I'r olaf wely i lawr.
Yn nhwynpath distaw'r fynwent
Dim bywyd hoff ni bydd;
Ar ddedwydd adain hedodd
Yr enaid adre'n rhydd.
Ei brudd "Nos dâwch" diwethaf
A roes i dir y byw;
Pob gwaith, enbydrwydd, angen,
Orffennwyd, gyda Duw,
A thristwch a llawenydd
Marwoldeb gwael i gyd;
Mae'n gweld garlantau'n tyfu
Yng ngwanwyn bythol fyd.
Gan hynny, llawen ganwn
I'r bedd ac angeu'n awr;
Caiff nefol gerdd adseinio
I'r gwely pridd i lawr!
Mae'r enaid wedi ennill
Gwawr bore'r bythol hedd;
O dangnef claer yr edrych
Ar angeu du a'r bedd.
—Arndt.