Caniadau John Morris-Jones/Colli'r Baban
← Cân y Bedd | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Cathlau'r Hesg → |
COLLIR BABAN
Crwydra'r fam drwy bob ystafell,
Crwydro i fyny, crwydro i lawr;
Chwilio, ni ŵyr beth, ac wylo,—
Bwthyn gwag a gaiff yn awr.
Bwthyn gwag!—O, air o alar
I un y bu gynt ei bryd
Yno'r dydd ar fagu'r baban,
Yno'r nos ar siglo ’i grud.
Eto daw i'r coed eu glesni,
Eto daw i'r haul ei fri;
Ond ni thycia, fam, it chwilio,
Eto ni ddaw d'annwyl di.
Pan anadlo chwa dechreunos,
Cyrcha'r tad ei gartref prudd;
Ceisio gwenu ceisio'n ofer,
Rhed y deigryn hyd ei rudd.
Da gŵyr ef mai trwm lonyddwch
Angeu sy tu mewn i'w ddrws,
Heb ond sŵn mam welw'n wylo,
Ac heb wên ei blentyn tlws.
—De la Motte Fouqué.