Caniadau John Morris-Jones/Cathlau'r Hesg

Colli'r Baban Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Y Gaer sy ger y Lli

CATHLAU'R HESG

I

Haul y nefoedd a fachludodd,
Hunodd a distawodd dydd,
Ac i'r llyn, mor ddwfn a llonydd,
Gwyra brigau'r helig prudd.

Rhaid i mi d'osgoi, f’anwylyd;
Rhed, Oddeigryn, rhed ynghynt!
O, mor brudd y sua'r helig,
A'r hesg yn crynu yn y gwynt.

Yn fy nwfn a llonydd ofid
Mae dy lun yn ddisglair wyn,
Fel llun y seren hwyr yn twynnu
Drwy'r hesg a'r helig ar y llyn.


II


Tywyll yw, a'r glaw'n ymdywallt,
A'r cymylau'n wyllt uwchben;
Croch wylofain y mae'r gwyntoedd:
"Lyn, ple mae dy seren wen?"

Chwiliant am y gwawl a ballodd
Yn y dwfn gythryblus li.—
Nid yw'th gariad dithau'n gwenu
Yn fy alaeth dyfnaf i.


III


Hyd gynefin lwybr y goedwig
Yn yr hwyr y crwydraf fi,
Tua'r glannau brwynog unig,
Dan fyfyrio am danat ti.

Pan dywyllo'r llwyn, pan suo
Chwa gyfriniol yn yr hesg,
Pan alaront, pan sisialont,
Wylo wna fy nghalon lesg.

A thebygaf ar yr awel
Glywed sŵn dy lais yn awr,
A'r dirionaf gân a geni
Yn y llyn yn mynd i lawr.


IV

Suddodd haul, a hed
Du gymylau'n gynt;
O, mor fwll a phrudd
Yw pob awel wynt.

Draw trwy'r nefoedd wyllt
Gwibia'r mellt yn wyn;
Llewych llathr eu llun
Wibia ar y llyn.


Tybio'r wyf dy weld
Yn y mellt mor glir,
Ac yn chwifio draw
Dy sidanwallt hir.


V

Yn y llyn digyffro'r erys
Hyfryd oleu'r lleuad fwyn,
Sydd yn gwau rhosynnau gwelwon
Draw yng nghoron werdd y brwyn.

Crwydra'r hyddod ar y mynydd,
Ac i'r nos y syllant fry;
Aml aderyn megis breuddwyd
Yn yr hesg yn symud sy.

Wylo wnaf nes pallu 'ngolwg;
Ond trwy f'enaid, eneth dlos,
Rhed meddylfryd pêr am danat
Fel rhyw dawel weddi nos.

Lenau.


Nodiadau

golygu