Caniadau John Morris-Jones/Cathlau Serch Connacht

Dychweliad y Gwanwyn Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Cân

O'r Wyddeleg

CATHLAU SERCH CONNACHT

I

Fy nghariad i, fy nghariad i,
Y ferch a'm clwyfodd ydyw hi;
Anwylach yw er peri im loes
Na merch yn f'oes liniarai 'nghri.

Y deg ei gwedd, y deg ei gwedd,
Hi aeth a'm hysbryd i a'm hedd;
Ochenaid nid anadlai hi
Am danaf fi uwchben fy medd.

Fy mhrydferth em, fy mhrydferth em,
Y ferch ni ddyry arnaf drem;
Ni chaf dangnefedd byth gan hon,
Mae dan ei bron elyniaeth lem.

Fy nghalon i drywanodd hi,
A'm hocheneidiau sydd heb ri;
Os balm ni chaf i wella 'nghlwy,
Dim einioes mwy nid oes i mi.


II

Gwae fi o'r eigion,
Ef sydd yn fawr !
Ef sy'n mynd rhyngof
A'm cariad yn awr.

Gadawwyd fi adref
I alar fy mron,
Heb obaith cael myned
Byth byth dros y don.

Gwae fi na welwn
Fy nghariad mwyn i
Eto am unwaith
Tu yma i'r lli.

Gwae fi na byddwn
Ac ef ger fy llaw
Ar fwrdd llong yn cyrchu
America draw.

Neithiwr fy ngwely
Oedd lasfrwyn ar lawr,
A theflais ef ymaith
Pan dorrodd y wawr.


Fy nghariad ddaeth ataf
Pan hunwn yn flin,
Ei ysgwydd ar f’ysgwydd,
A'i fin ar fy min.


III

Pe byddem ar foel Neffin,
Myfi a'm cariad wen,
Mor ddedwydd y cydfydiem
A'r adar ar y pren.

Ei genau bach parablus
Yn llwyr a aeth a'm hedd,
Ac ni chaf gysgu 'n dawel
Byth eto cyn fy medd.

Mor ddedwydd ydyw'r adar
Sy'n esgyn fry i'r nen,
A huno gyda'i gilydd
Ar un o frigau'r pren.

Mor bell y gwelir finnau
Oddiwrth f'anwylyd i
Pan gyfyd haul y nefoedd
Bob bore arnom ni!


IV

Gwrando arnaf, eneth wen,
Ar dy ben yr aur a drig;
Ymdonni mae'n llywethau llaes,
Hyd wellt y maes y tyf ei frig.

Dy felys wefus liwus lân
A'th ddannedd mân a'm gwnaeth yn syn;
Lluniaidd dâl a gên fach gron,
Gwddf a bron fel alarch gwyn.

Mae dy rudd sydd fel y rhos,
Eneth dlos, a'th feinael di,
Mae d'olygon araf mwyn
Wedi dwyn fy mywyd i.


Nodiadau

golygu