Caniadau John Morris-Jones/Cân
← Cathlau Serch Connacht | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
I Anthea → |
O'r Saesneg
CÂN
Pwy yw Silvia? Beth yw hi
Fod pob mab yn ei chanmol?
Santaidd, teg, a doeth yw hi;
Y nef roes iddi rasol
Ddoniau fel yr hoffid hi.
Os teg, ai mwyn yw hi'r un modd?
 mwynder trig tlysineb:
Cariad i'w dau lygad ffodd,
I'w helpu o'i ddallineb;
Ac yno, o gael help, ymdrodd.
Gan hyn i Silvia canwn gân
Fod Silvia yn rhagori,
Rhagori ar bopeth mawr a mân,
Ar ddaear ddwl sy'n oesi;
Rhown iddi blethi blodau glân.
—Shakespeare.