Caniadau John Morris-Jones/I Anthea

Cân Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Eiddigedd y Saint

I ANTHEA

A ALL ERCHI UNPETH IDDO

Arch imi fyw, a byddaf byw
Yn Brotestant i ti;
Neu arch im garu, ac iti rhof
Fy nghalon serchog i.

Calon mor dyner ac mor fwyn,
Calon mor iach a ffri
A'r un a gei'n y byd i gyd,
Rhof honno i gyd i ti.

Arch iddi sefyll, ac hi saif
O barch i'th archiad di;
Arch iddi nychu ymaith oll,
Hyn hefyd a wna hi.

Arch imi wylo, ac wylo wnaf
Tra pery'm llygaid i;
Ac hebddynt, cadwaf galon byth
I wylo erot ti.

Arch im dristau, a hynny dan
Y gypres draw wnaf fi;
Neu arch im farw, a beiddio wnaf
Yr angeu i farw i ti.


Fy hoedl a'm serch a'm calon wyt,
Cannwyll fy llygad i;
A chennyt feddiant ar bob rhan
I fyw a marw i ti.

—Herrick.


Nodiadau

golygu