Caniadau John Morris-Jones/Eiddigedd y Saint

I Anthea Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Y Cusan

EIDDIGEDD Y SAINT

Yr eneth hoff a aeth a'm serch
Oedd gymaint uwch na neb rhyw ferch,
Ar saint y nef rhagorem ni,
Mewn glendid hi, mewn cariad fi.

A hwythau, am na fynnynt fod
Yn ail i rai sydd is y rhod,
A gymerth hon i'w plith eu hun,
A'm gadael innau'n druan ddyn.

—Duke of Buckingham.


Nodiadau

golygu