Caniadau John Morris-Jones/Y Cusan
← Eiddigedd y Saint | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
I Celia → |
Y CUSAN
Mae'r enaid, medd athronwyr byd,
Fel meudwy yn ei gell fach glyd,
Yn byw'n ymennydd dyn o hyd.
Nid wyf athronydd, eto gwn
Yn llygaid Gwen im ganfod hwn;
I'w gwefus llithrodd, a myfi
Gusenais yno 'i henaid hi.
—Anhysbys.