Caniadau John Morris-Jones/Cwyn y Gwynt

Y Seren Unig Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Y Wennol

CWYN Y GWYNT

Cwsg ni ddaw i'm hamrant heno,
Dagrau ddaw ynghynt.
Wrth fy ffenestr yn gwynfannus
Yr ochneidia'r gwynt.

Codi'i lais yn awr, ac wylo,
Beichio wylo mae;
Ar y gwydr yr hyrddia'i ddagrau
Yn ei wylltaf wae.

Pam y deui, wynt, i wylo
At fy ffenestr i?
Dywed im, a gollaist tithau
Un a'th garai di?


Nodiadau

golygu