Caniadau John Morris-Jones/Cymru Fu: Cymru Fydd

Cywydd Priodas W. Llewelyn Williams Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Salm i Famon

AWDLAU

CYMRU FU : CYMRU FYDD

I wlad Gymru bu mil beirdd,—a'u mêl wawd
Aml ydoedd; a phrifeirdd
Ynddi yn gwau odlau heirdd.

Wele, di gêst, wlad y gân,
Do, beraidd wawd y beirdd hên ;
Cefaist Ddafydd gywydd gwin
Yn eu mysg, a Gronwy Môn.

Hen feirdd fu i Gymru gynt—
Oedd gynnes cerdd a genynt,
Annisbur odlau 'sbrydlon
Yn frwd o eigion y fron.

O, fal y cenid, o fawl acenion,
Gerddi dwys agwrdd i dywysogion,
Didlawd ofegwawd i bendefigion,
Hen wŷr i daro dros Gymru dirion,
Colli eu gwaed dan draed er hon, —wladgar
Wyr dewrwych, a hygar eurdorchogion.

Molai Taliesin
Urien ac Elffin
Gynt, ac Aneirin gant gân hiraeth—
Canu Gododin
"Cydwyr cyfrenin,"
Wylo am fyddin cytrin Catraeth.

Oer och oedd i Lywarch Hen
Alaru ar ol Urien;
Eilwaith wedi Cynddylan
Erys co'i alarus gân:

"Stafell Gynddylan ys tywyll—heno,
"Heb dân heb gerddeu;
"Dygystudd deurudd dagreu."

Meilir gynt, molai ar gân,
Cwynai ar ol Ap Cynan;
Gwalchmai'n hoyw i'r gloyw ei gledd
A ganai—Owain Gwynedd;
Cynddelw unddelw a wnâi,
Neu Gyfeiliog a folai;
E gant Cyfeiliog yntau,—
Llyw oedd a bardd, llwydd ei bau,—
Ys moli aerweis Maelor,
Nifer gwych, yfwyr ei gorn.

I'w lyw y canai Lywarch
Ap Llywelyn—myn fy mharch;

Godidog eurfant gantawr
Fu ef i Lywelyn fawr.

Bleddyn fardd a'i wawd harddaf,—a'r enwog
Ap yr Ynad gofiaf,
Os cofiaf y dewraf dyn,
"Llywelyn ein llyw olaf."

Nid oes i ni dywysog,
A gwir yw, wedi ei grog.
Walia wen, O, alanas!
Ei holaf lyw, ef a las.

O lwyr ing i wylo'r af,
I ddirgeledd ergiliaf,
Och! fy nhud, a chofio wnaf
Lywelyn dy lyw olaf.

Ar ol Llywelyn eraill a welaf,
Yn urdd o ryw gewri, feirdd rhagoraf.
Iolo Goch, ynad glew gwych a enwaf;
Engir ydd eiliodd wawd angerddolaf
Yn hwyrddydd ei oes harddaf—i Lyn Dŵr—
Mawr ddiffynnwr Cymru oedd a'i phennaf:

"Dyre i'n gwlad, dur iawn gledd,
"Deyrnaswr drwy ynysedd ;
"Dyga ran dy garennydd,
"Dwg ni o'n rhwym dygn yn rhydd!"


Cofiaf gu harddaf gerddi—hael awen
Lewis o Lyn Cothi;
Goleuddawn fawl arglwyddi,
Golud a nawdd ein gwlad ni,—
Dewr i'w gwarchadw rhag archoll,
Neu gam ran, hen Gymru oll.

Yntau â'i gân a'u taniai,
Yn enw y Nef, hynny wnâi :
"Arth fry ydwyt wrth fradwr ;
"Tâl frad, trwy gennad un Gŵr."
I ryfela, dewr filwyr;
Fuon' hwy, a chyfiawn wŷr:
"Ar gelwydd y gyr gilio,
"Ac ar y ffals y gyr ffo."
Gwŷr iawn a garai heniaith,
Gwŷr hael a garai eu hiaith:
"Yn y plas cwmpas y caid
"Brud heniaith y Brutaniaid."

Ein hiaith i'n bonedd heddyw,
"Barb'rous jargon" weithion yw;
Sŵn traws y peasant," a rhu
I'r " ignorant" i'w rygnu.

Bwy, fy ngwlad, yn geiniad gai
I philistiaeth a'i phlasdai,
Tref Gath a'i Goliathau?
Am salmydd, Ddafydd neu ddau!


Uchel loyw—wawd, na chlywem!—sain hygar
I Seisnigaeth falchdrem;
Rhydd eilier rhyw gerdd hoywlem―megis tân,
Hoyw brysur fo'r gân i breserfwyr gêm.

Rhown arwyrain aur-eiriog—am radau
Ein Nimrodiaid nerthog;
Heliant gadarn 'sgyfarnog
Heb eiliw ofn, ac heb lôg!

Geir adrodd eu gwrhydri
A'u glewdid i'w hymlid hi?

A dygwch ddethol folawd,
A pharch i chwareuon ffawd,
A dygwch i redegwyr
Ceffylau—a gorau gwŷr;
Moeswch, llefwch yn llafar
Eu peraidd glod, giwdod gwâr!

Rhyw chwai eiriau rhy chwerwon?
Chwerw, fy mrawd, a chur fy mron.
Hen fonedd a fu unwaith
I'n gwlad gu, loywed eu gwaith!
I'w lle daeth bonedd heddyw,
A'u goreu waith gware yw;
Gware yw eu goreuwaith,
Ba waethaf eu gwaethaf gwaith?


Yn rhyw garn Saeson trawsion y troesant,
A'r groyw—iaith wiwdeg Gymraeg wrthodant,
Sarhaus, trahaus y'i diystyrasant.
Eres trwy oesoedd eu gwlad rwystrasant,—
Yn lle'i llywyddu i wellwell lwyddiant,
O'u calon yn gyson dirmygasant
Ei holl ddyhewyd, ei chŵyn a'i mwyniant;
A'i chrefydd lwys, dwys y'i herlidiasant ;
Un da o Walia welant :—y rhenti
 rheibus egni o'r bau a sugnant.

Ond prif wyddfod
Yr Eisteddfod
Am aur y god, O Gymru! gânt;
Ac yn y lleoedd uchaf y safant,
Dieithr eu drych, odiaeth, yr edrychant,
A'u Saesneg carnbwl geciant—i foli
(Ys diwerth stori!) iaith ddiystyrant.

Adrodder teg, hardd—deg hynt,
A hanes un ohonynt.

Am ei ddawn ef, meddiannu
A chydio maes wrth faes fu;
Gormesu bu ar y bobl,
O dir cyd myned a'r cwbl,
I'w feddu oll ef oedd abl.
I wirion tlawd yn aros
Yr oedd ochr ffordd a chwr ffos.

Daw rhyw wan truan un tro,
Ag amrant ŵyl, rhyw Gymro,
Yn isel iawn i geisio
Lle i'w fwth, y lleiaf fo;
Gofyn darn i fyw arno
O annwyl dir ei wlad o!

A'r lleidr mawr, mor llawdrwm yw!
Rhyw gidwm terrig ydyw;
'Dos,' medd ef, 'os dewisi,
'Yno dod dy fwthyn di;
'Ac i'th arglwydd bob blwyddyn
' Rhoi'n rhent ryw hyn a rhyw hyn.'
Mwy yna o swm enwir
Na holl werth y diwerth dir.
'Ond cofia, daw y cyfan
'Yn eiddo i mi'n y man.
'Dos, fel hyn, os dewisi,
'I fyw'n rhad ar fy nhir i.'

O wron! O wladgarwr!
O haelionus serchus wr!
“Oes genau na chais ganiad,
"A garo lwydd gwŷr ei wlad?"
Awn ymlaen ddeugain mlynedd,
Y mawr fawr ysbeiliwr fedd
Faith dref a'r holl gartrefi
A wnaeth ei thrigolion hi;

Ni fu raid i'w fawrhydi—godi maen,
Na rhoi ar faen un maen o'i meini.

Yna'r hocedwr cadarn
Aeth o fyd yn noeth i farn.

A ddywedwyd yn ddidwyll
Erioed am ei ddirfawr dwyll,
Am i'r gwr orthrymu'r gwan,
A'i hynaws garu'i hunan?

Neu gadd yr arglwydd a'i lwyddiant—ei droi
Yn drist i fro'i haeddiant,
Bro gyfiawn ebargofiant,
Yn ddison, heb dôn, heb dant?

Naddo; eithr fe gyhoeddir
Eisteddfod hynod cyn hir;
A rhennir cadair honno
Am ddidawl fawl iddo fo.
Gyda'r ferth gadair e fydd
Melynaur i'r moliennydd.
Yna'r beirdd er y wobr ddaw

I eiliaw cân o foliant;
Yn ddilesg iawn ydd eiliant, ei ddirit
Haelioni foliannant;
Wedi gwau ei radau gant,
Ei haelioni ail enwant.—

Y wlad a'r tai ladrataodd,—yna
Ambell geiniog rannodd;
Weithion ei waith (a thawn ni)
Heb wyrni Duw a'i barnodd.

Wenhieithwyr, gwybyddwch chwithau,—melltith
A malltod i'n ffroenau
Yw'ch odli gwag, a'i chwedl gau,
Anfadwaith eisteddfodau.

Ai er gwobr, neu am ryw ged
Yr wylodd Tudur Aled ?—
A hynny am wŷr uniawn,
Ac am wŷr oedd Gymry iawn.
Wedi'u marw dyma’i araith—
A mawr ei ofn am yr iaith—
"Duw gwyn, er digio ennyd,
"Ai difa'r iaith yw dy fryd?"

Yr awr hon, nid er yr iaith—na'n cenedl
Hen y cawn gywreinwaith;
Ond cawn aflerw oferwaith,
Lawer, er mael—gwael yw'r gwaith.

Ie'r wobr a â a hi,
A'r elw sydd yn rheoli ;
Rhyw genedl gaeth—saeth yw sôn—
Yma ŷm yn llaw Mamon.

Arglwyddi, yn wir, gwleddant
Yn segur ar gur rhyw gant;
A beirdd sydd ofer gleriach
Yn brefu am ryw wobr fach;
A gweision Iôn, hyn sy'n waeth—
Boddio am gydnabyddiaeth,
Neu ymladd am hen waddol,
A'r wir efengyl ar ol.

Am ysbryd dewr y cewri
Welid un waith i'n gwlad ni!
Ymosod ar bechodau,
Dinoethi pydrni ein pau;
Pregethu'r Mab a'i aberth,
A'i fyw hardd, mwyaf ei werth.

Nid un budd, cydnabyddiaeth,—na degwm
A'u dug i'r filwriaeth;
Taniodd Iôn eu calonnau
Â’i rasusau, hwythau aeth.

Nid rhyw ffurfiol reolau,—a dadwrdd
Gosodedig eiriau;
Un allor na chanhwyllau,
Nid rhwysg gwag a rhodres gau.

Nid naddu diwinyddiaeth,—a hollti
Gwelltyn coeg athroniaeth,

A hedeg uwch gwybodaeth,
O olwg gŵr, i niwl caeth.

Ond yn goedd, argyhoeddi—y byd drwg
O bob trais drygioni;
Ni wyrent genadwri
Crist ei hun—ein heilun ni.

A fu ail neu hefelydd,—neu goethed
Pregethwr y Mynydd?
Paul oedd burion athronydd—
Ond awn at Ffynnawn y ffydd.

Hyd ddaear werdd bu'n cerdded,—a rhoes wir
Esiampl i'w dynwared;
Ac athro fu 'mhob gweithred,
A geiriau Crist yw gwir Cred.

Ni ddaeth i ddiddymu'r ddeddf :
E roddes in oreuddeddf
Gyflawnach na'r ddeddf arall,
Fanylach, llymach na'r llall.
A nod angen ei gennad—
'A wnêl ewyllys fy Nhad!'
Pa le y mae gwŷr ëon
A faidd fynegi'r ddeddf hon?

Ym mryn a dyffryn mae Cymru'n deffro—
'Mae y cyfryw oedd i'm cyfarwyddo?

'Mae y dewrion, heb ofni ymdaro,
'El i wyneb y gelyn heb gilio—
Wŷr o ffydd a'i gyr ar ffo?—mae'r cyfiawn?
'Mae im wŷr uniawn? Mae a'm harweinio?

Eithr os du yw, na thristawn;
Mewn da bryd, cyfyd cyfiawn
I'th arwain o gaeth oror
I rydd wasanaeth yr Iôr;
Dwyn o aflan wasanaeth
Gau Famon feibion dy faeth :
E dyr gwawr, wlad ragorwen,
Nac wyla, O Walia wen.

Di fegi bendefigion,—oreugwyr,
Uchelwyr, â chalon
I'th garu, fy nglân fanon,
A charu 'th iaith, heniaith hon.

Ac fe ddaw it heirdd feirddion—i ganu
Gogoniant y cyfion;
Ac â newydd ganeuon,
A thanbaid enaid y dôn'.

Gwyr crefydd a geir, cryfion—yn nerth Duw,
Wrth y dyn, yn eon
Gryf a lefair air yr Iôn—
Ofni Duw'n fwy na dynion.


Ystryw ac anonestrwydd—celwyddog
Gladdant mewn gwaradwydd;
Rhagrith diafil a'i bob aflwydd,
Gweniaith, ffug waith, ffy o'u gwydd.

Ni bydd rhith lledrith anlladrwydd—drwot,
Distrywir pob arwydd;
Gwlad ry eurglod i'r Arglwydd,
A thi'n wlad o faith iawn lwydd.

Ni thrig annoeth ddrygioni—ynod mwy,
Na dim ol gwrthuni;
Nac anwybod na thlodi,
Yn wir, nid adwaeni di.

Ynod bydd pob daioni,—hoff bau deg,
A phob digoll dlysni;
Pob gwybod a medr fedri;
Aml fydd dy ddrud olud di.

Gras a dysg, oreu ystôr,
Ynod gaf yn dygyfor;
Ba ryw wall a fydd i'm bro?
Ba ddawn a'r na bydd yno?

Geiriau annwyl Goronwy,
Yr awr hon fe'u gwirir hwy :
"Yn lle malais, trais, traha,
"Byddi 'n llawn o bob dawn da,

"Purffydd, a chariad perffaith,
"Ffydd yn lle cant mallchwant maith;
"Yn lle aflwydd, tramgwydd trwch,
Digon o bob rhyw degwch,
"Undeb, a phob rhyw iawnder,
"Caru, gogoneddu Nêr. "

Dyma wlad wen ysblennydd,
O feirdd, wele Gymru fydd!

Och wŷr, na syllwch arni
Heddyw am ei bod ddu hi;
Caeth yw, ac ar ei haraul
Hoff wedd hi y craffodd haul;
Ac ym mro Aifft, Gymru wiw,
Os du wlad, ys telediw!

Bwy gei o'th feib, o gaeth fan,
A'th ddwg yna i'th Ganaan?
Chwi feib awen, eleni,
Cyfodwch, cychwynnwch chwi :
I'r anghred rhodder enghraifft,
Rhodder her i dduwiau'r Aifft.

Cenwch ogoniant Canaan,
Cenwch ei phryd, gloywbryd glân;
Amled ynddi lili lon,
A rhyw siriol ros Saron;
Ac O, yr enwog rawnwin


A geir i'w gwinllannoedd gwin!
Gwridog o ryw deg aeron
Llwyni a pherllannau hon;
A'i ffrydiau hoff a redodd
Laeth a mêl, helaeth modd;
O chenwch, cenwch bob cân
Ag wyneb tua'r Ganaan.


***
A gâr rhyw fab gwir ei fam?
Un eilfydd i'w anwylfam?
Minnau, ai hoff i'm henaid
Fal Cymru gu un fro gaid?
Gweddw fam gynt a'm magodd fu,
Hon gerais os gwn garu;
Gymru lân, wyt ychwaneg—
Chwaer wyt im, a chariad deg.
Pob rhyw aur, rhuddaur roddwn,
Mwy na gwerth pob meini, gwn,
Rhyw iesin feini crisiant,
Neu iasbis gwych hysbys gant;
A pha'r oroff fererid,
Neu ba'r em fyddai'n rhy brid?
Mwy na pherl, gem na phuraur,
Rhof iddi well rheufedd aur—
Rhoi'r fron a'r galon i gyd,
A'r llaw fau, a'r holl fywyd,
Pob myfyr pwyllig digoll,
Yn barod iawn a'm bryd oll:

Fy nyddiau rof yn addwyn,
Ië, rhoi'm hoes er ei mwyn.

Ac mae rhyw fil, Gymru fau—
Dynion canmwy eu doniau—
Ddyry eu hardd einioes ddrud,
Ddihefelydd fyw olud!
O, deced ymysg gwledydd,
Ac O, mor fawr Gymru fydd!

Dy loyw ddawn dy gyfiawnder—yna geir
Yn deg wawl goleuber;
A thi, ys hardd ymhlith sêr,
Dywynni'n gannaid Wener;

Ac ar goedd, holl bobloedd byd
A wêl hefyd dy leufer.
Fy nhudwedd, dyma 'ngweddi—
Weld awr deg dy loywder di.
A thithau, gorthaw, f'awen;
Doed yr awr, Iôr mawr. Amen.

Nodiadau

golygu