Caniadau John Morris-Jones/Cywydd Priodas W. Llewelyn Williams
← Cywydd Priodas Owen M. Edwards | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Cymru Fu: Cymru Fydd → |
CYWYDD PRIODAS
W. LLEWELYN WILLIAMS
Gynt o Goleg y Trwyn Pres, Rhydychen, a chynt Arch-arogldarthydd
Cymdeithas Dafydd ap Gwilym; y pryd hynny yn Olygydd 'Seren y
Deheu'; yn awr yn Seneddwr dros Fwrdeisdrefi Sir Gaerfyrddin.
Rhyw lon newyddion heddyw
Yrrwyd im—a hyfryd yw.
O'm da ethol gymdeithion,
Ac ni bu un llu mor llon,
Y llonnaf oll ohonynt,
Heddyw llonnach yw na chynt.
A mi'n aros mewn hiraeth,
Mewn oer gwyn yma'n rhy gaeth,
Mewn hiraeth am hen oriau,
A chyfeillion mwynion mau,
Hiraeth am gwmni goroff,
A chŵyn am Rydychen hoff.
Oriau, dyddiau dedwyddion,
Rhy ddedwydd i brydydd bron!
O, hen ddyddiau rhy ddiddan—
Cofiaf yr addfwynaf fan;
Cyrddau gwyliau ap Gwilym,
A'u llond o ffraethineb llym;
Llu dfrif o fellt eiriau
O gylch y cwmpeini'n gwau;
Pob ystŵr, pawb a'i stori—
’D oedd neb mor ddedwydd a ni.
Siarad am hen amseroedd,
A beirdd byd, a hyfryd oedd;
A mwyn iawn darllennem ni
Gu harddaf rieingerddi.
O, pe gwelai Ap Gwilym,
Ennyd, y llon fwynhad llym—
Ap Gwilym, edlym odlau,
Fwyn ei gerdd, a fu'n eu gwau.
O bob rhyw hardd fardd a fu
Erioed yn diddan brydu,
Neu fwyn sôn wrth fun ei serch,
Neu gwynfan am ei geinferch,
Ni bu erioed neb o rym,
Neb o galibr Ab Gwilym.
Prydydd i'w lwys Forfudd fu,
Ac i hon bu'n hir ganu:
Prydydd i Forfudd f'eurferch
"I'm hoes wyf, a mawr yw'm serch ;
“Er yn fab, bryd eirian ferch,
"Y trosais iddi'm traserch."
A fu dyn o'n tyrfa deg
Yn gwrando cân gywreindeg
Ab Gwilym, heb i'w galon
Feddwl am ryw Forfudd lon
Yn rhywle'n yr oreuwlad,
Rhyw annwyl le'n yr hen wlad?
Ond ofer fu serch Dafydd;
Ni chadd ei Wen wych i'w ddydd.
I'w deg henaint y cwynwys
Ei hynt hir a'i somiant dwys:
"Hir oedi'm serch a'm rhydawdd,
"A byw o hyd ni bu hawdd.
"Dan fy swydd, lawer blwyddyn,
"Gorfod bod hebod, er hyn."
Ni bu'r galed dynged hon
Yn gwbl i'r hen ddisgyblion.
Diameu in, D. M. ŵyl
Oedd ddisgybl na chadd ddisgwyl,
Na'r Pencerdd hoywgerdd yn hir,
Na fynnodd yntau 'i feinir.
A phuraidd Archoffeiriad
Yn mynnu Gwen gymen gad,
Ac Archdderwydd dedwyddair,
A'r dôn leddf, a'r doniol air.
Daeth pob un o honun' hwy
Ymaith o'r Rhyd i dramwy;
Ac wrth rodiaw yn llawen
Ar ei hynt yng Nghymru wen,
Cyfarfu â'r decaf Forfudd,—
Canu'n iach bellach ni bydd;
Di ball eu mwynhad bellach,
Heb draha 'r un Bwa Bach.
Heddyw ym Môn rhyw sôn sydd
Wrthyf am Arogldarthydd
A aeth ac a wnaeth, yn wir,
Yr un modd a'r rhain, meddir.
Y llonnaf oll hwn a fu
O'r dilesg hygar deulu;
Ac ef a faith gofiaf fi—
Ystyriaf ei ffraeth stori;
Ac yn aml dychmygu wnaf,
Yn bur ddedwydd breuddwydiaf
Fy mod yn canfod y cylch
Yn ymgom fyth o'm hamgylch;
Hyglod ŵr yr arogl darth
Yn didor greu ei dewdarth,
Ac aml y mae 'i gwmwl mwg
Yn ei gelu o'n golwg;
Ond wrth ffrwd ei araith ffri,
Hynod bob gair o honi,
Wrth ei nåd a'i chwerthin o,
Adweinir ei fod yno.
A gwir iawn mai gŵr hynaws
A llon oedd, didwyll ei naws;
Aml awr bu fawr fy hiraeth
Am wir ffrind, ac un mor ffraeth.
Wedi byr gerdded y byd
E welodd ei anwylyd;
Ei anwylyd oedd Neli,
A'i Forfudd ddedwydd oedd hi;
Ac o flodeu Deheudir
Ni welai ail Neli, wir;
Neli oedd ei lili lon,
A Neli aeth a'i galon.
E gadd y lleill, gwiwddull wedd,
O geinaf flodau Gwynedd,
Neu bwysi teg Bowys dir,
Hyfrydwch penna'r frodir.
Oni welais mo Neli
Irdwf hardd, ni chredaf fi
Fod o fun yn Nyfed faith
Ail i Neli wen eilwaith.
E wyr y llanc geinder llun,
A Neli gaffai'n eilun.
Anwylodd ef ei Neli,
A cha'r tâl o'i chariad hi;
Ca ryw nef o dangnefedd
Yn awr yn ei hinon wedd
A'i golygon hoywlon hi,
Ac yn heulog wên Neli;
A Neli wen ei haul yw,
Hyn a wyddom ni heddyw.
Ef yn siriol fwyn Seren
Yn tywynnu bu uwchben
Ryw eirian belydr araul—
Yn Neli wen wele 'i haul.
A chaffed ef dangnefedd
Fyth yn llewych gwych ei gwedd;
A'i londer ef fo'n peri
Lonni o'i hoff galon hi,
I gynnal yn ei gwiwnef
Ei heulaidd wawl iddo ef.
A hyd byth, byth, felly bid
I Londer ac i Lendid.
Nac anghofiant chwaith, weithiau
I'w hoenedd oll, ffrind neu ddau
Mewn oer som yn aros sydd,
A du ofid fel Dafydd.
Ond er dim na rwystred hyn
Eu mwynhad un munudyn.
Bendithion haelion y nef,
A'i heddwch ar eu haddef!
Rhagfyr 1891.