Caniadau John Morris-Jones/Cywydd Priodas Owen M. Edwards
← Cywydd Hiraeth | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Cywydd Priodas W. Llewelyn Williams → |
CYWYDD PRIODAS
OWEN M. EDWARDS
Mehefin 19eg, 1891
Llyna haf llon i hoywfardd,
A llyna fyd llon i fardd;
Llawen lawen, Owen, wyt,
O, ddedwydd ddedwydd ydwyt.
Llonned y wledd, llawn dy lys—
Mi 'n unig ym Môn Ynys,
A dychmygion llon a lleddf
Yn gwanu pob rhyw gynneddf:
Cofio am aur oriau'r Rhyd,
A dyddiau'r hen ddedwyddyd,
Oriau gwyliau Ap Gwilym,
Areithiau llon, ffraeth a llym ;
Hwyl dirion mewn gwlad arall,
Ac mor Gymreig ym mro all.
Arweiniwyd rhai o honom
O'r oreu dref ryw awr drom;
E fu wedyn ddyfodiad
I rai i lon dir y wlad
Gyrhaeddir wedi'r adwy—
Heddwch mawr dedwyddwch mwy.
D. M. a aeth—dyma un;
Gwelodd enethig wiwlun
A'i denodd a'i dewiniaeth,
Ac ef a'r fun yn un aeth.
T. G. hefyd, ti gofi,
Ganai ’n hên ganuau ni,
Bynciai ganiad "Toriad Dydd ”
Yn hwyliog ddihefelydd,
A dodi 'i brofiad wedyn
Yn iaith goeth "y Gwenith Gwyn."
Iddo torrodd dydd terwyn,
A Th. G. gadd wenith gwyn.
Dyna Bulston radlonair
Aeth o'u hôl, ŵr ffraeth ei air.
Nid yw'n eilio'r dôn “ Elwy”
Ar sain " y Bachgen Main" mwy;
Yn awr aeth yn ŵr i'w Wen,
A chawr bochgoch yw'r bachgen.
Gadawodd y wers bersain
Yn gân i mi, fachgen main.
Goreuddyn hygar heddyw
Aeth i'r wlad wen, Owen yw.
Pe'm holid pam mae heulwen
Heddyw i gyd yn hardd a gwen,
Ac anian, pam y gwena,
Pam mae'n llafar adar ha',
Buan iawn atebwn i,
'Eu brawd sydd i'w briodi,
'Adwaenai lendid anian,
'Garai'r adar mwynwar mân.'
Mae fy mron innau'n llonni,
Bu'n gyfaill mwyn, mwyn i mi;
A'i eiriau gwâr a gerais,
A'i wên lon, addfwyn, a’i lais.
Cofio'r wyf i mi'r hiraeth
A fu'n wir, yn hir, pan aeth
Ar led i dramor wledydd;
Erchais' wên yr awen rydd
'I mi i ddisgrifio modd
'Y medrus lyfn ymadrodd,
'I mi ganu am gynneddf
' Y llais a'r parabliad lleddf,
'A'r dull digrif bert o wau
'Y dedwydd ddywediadau.'
Cofiais iaith, "ddwbliaith ddyblyg,"
Dafydd wedi Gruffudd Gryg—
"Lluniwr pob deall uniawn,
"A llyfr cyfraith y iaith iawn."
Mwy, Elin, ïe, milwaith,
Na gair fy ngwan egwan iaith,
Nac amcanion dynion doeth,
A gefaist heddyw o gyfoeth.
Am aur clogwyni Meirion,
Neu blasau heirdd, ba les sôn?
Gyfoeth i'w ebargofi,
Werthid er dim wrth d'ŵr di.
Chwiliwch yn ystig ddigoll
Am ryw un drwy Gymru oll,
A geir un mwy rhagorol?
Nid ych yn nes. Dowch yn ôl.
Onid cyfion oedd lonni
Elin deg o'th galon di?
A thrysor i ragori
(O Elin deg, bydd lon di!)
Ar ei ddawn lawn goleuni,
Ar enw a dysg yw'th ran di.
Gwir gariad gwr a geri,
Decaf ystad, gefaist ti.
Oreu gŵr fe ŵyr garu,
Carodd ei "wlad, geinwlad gu";
Yn fore, rhoes i Feirion,
Euraid fro, gariad ei fron;
Gwelodd Wen liw goleu ddydd
Hyd fryniau gwlad Feirionydd,
Ac eilwaith ei holl galon
A'i carodd hi, lili lon.
Morynion bro Meirionydd—
Ba raid sôn?—yn hoywbryd sydd,
Yn hyfryd lân rianedd
Fal blodau'r drain, gain eu gwedd.
Ymysg y drain eiriain, hi,
Y loyw Elin, oedd lili.
Nid yw clod (cefaist glodydd—
Enw a saif, it, Owen, sydd),
Nid yw aur bath, na da'r byd
I'w ddymuno ddim ennyd;
Ac afraid yw ei gyfri
Wrth dy wyn flodeuyn di.
Wele Elin, dy lili,
Yn eiddo teg heddyw i ti.
Onid cyfion oedd lonni,
Owen, o'th fron dirion di?
A mwy fil na'i phryd lili,
A'i golwg ŵyl annwyl hi,
Oedd gariad merch a serchi;
Eithr hynny, daeth i’th ran di.
Gwyddost gyfrin ddoethineb
Lawer, yn llwyr, na ŵyr neb;
A oes dim a wyddost ti
Ar gariad yn rhagori?
Hyfryd yw y fro dawel,
Llyna fan yn llawn o fêl;
Y ddeuddyn hwyliodd iddi,
Hudol oedd, a'm gadael i.
Minnau i'r ddau ddymunaf
Fyth yno wên heulwen hâf;
Bydded tiriondeb iddynt,
A Duw yn nawdd, a hawdd hynt.