Caniadau John Morris-Jones/Dafydd Llwyd Siôr

Iaith y Blodau Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Ieuenctid

DAFYDD LLWYD SIÔR[1]

1903

Dafydd Llwyd a fedd y llu,—Siôr enwog
Sy arweinydd Cymru;
Dwyn ei genedl dan ganu
I'mosod ar ormes du.

Dafydd Llwyd a faidd y llu—a gyfyd
O ogofau'r fagddu;
Ni cha'r fall â'i holl allu
Ol ei garn ar Walia gu.

Nodiadau

golygu
  1. D. Lloyd George