Caniadau John Morris-Jones/Iaith y Blodau
← Moes | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Dafydd Llwyd Siôr → |
IAITH Y BLODAU
Pan rodiaf harddaf erddi,—e sieryd
Siriol flodau'r llwyni
Am dy wedd, fy nyweddi,
Hawddgared, teced wyt ti.
Dyna'r ddwys liwlwys lili,—hyawdl iaith
Am dy liw sydd iddi;
A'r rhos tan wrido'n honni
Hardded yw dy ddeurudd di.
Pob un yn teg fynegi—ei ganiad,
Ac yna'n ymroddi
Yn un côr i'th glodfori—
"Onid teg y lluniwyd hi?"