Caniadau John Morris-Jones/Drwy'r coed yn drist y rhodiwn

Ymgrynhoi y mae'r tywyllwch Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Ti ferch y morwr tyred

XII

Drwy'r coed yn drist y rhodiwn,
A'r fronfraith yn y gwŷdd
Yn llamu'n llon a chanu,
"Paham yr wyt mor brudd?"

"Dy chwaer y wennol," meddwn,
"All ateb hyn i ti-
"Hi drig mewn nyth bach cywrain
"Wrth ffenestr f’annwyl i."


Nodiadau

golygu