Caniadau John Morris-Jones/Ti ferch y morwr tyred
← Drwy'r coed yn drist y rhodiwn | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Pan fyddwyf yn y bore → |
XIII
Ti ferch y morwr, tyred
A'th gwch o'r dyfroedd draw,
Ac eistedd yn fy ymyl
I 'mgomio law yn llaw.
A pham y rhaid it ofni?
Dy ben dod ar fy mron-
Nid ofni'r môr na'i dymestl,
Nac ymchwydd cryf ei don.
Rhyw for yw 'nghalon innau,
 storm, a thrai, a lli;
A llawer perl tryloywaf
Yn ei dyfnderoedd hi.