Caniadau John Morris-Jones/Duw Cadw'n Gwlad
← Yr Hwyr Tawel | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Llythyrau at O.M.E. 1 → |
DUW CADW'N GWLAD
Ar ol William Watson
Duw, cadw'n hannwyl wlad,
Duw, cadw Gymru fad,
Duw, cadw'n gwlad;
Rhag newyn a rhag plâu,
Rhag cledd a'i ddychrynfâu,
Rhag gormes a phob gwae,
Duw, cadw'n gwlad.
Duw, dyro farwol glais
I bob cam fraint a thrais
Sy'n llethu'n gwlad;
Mae'r beilchion ym mhob man
Yn gwledda ar bwys y gwan;
Duw, dwg y tlawd i'r lan;
Duw, cadw'n gwlad.
Ni phery bri na nerth;
Cyfiawnder sydd o werth
I godi gwlad;
Os araf deg y daw,
Pan ddôl ni chilia draw;
Duw, llwydda'i flFordd rhag llaw;
Duw, cadw'n gwlad.
Duw, cadw'n hannwyl wlad,
Duw, cadw Gymru fad,
Duw, cadw'n gwlad;
Er myned heíbio i gyd
Deyrnasoedd mawr y byd,
Duw, cadw Gymru o hyd;
Duw, cadw'n gwlad.