Caniadau John Morris-Jones/Llythyrau at O.M.E. 1

Duw Cadw'n Gwlad Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Llythyrau at O.M.E. 2

LLYTHYRAU

AT O.M.E.[1]
I

Mehefìn 1886.

***
Mi wela'r Wyddfa draw yn las,
A glas yw'r awyr hithau,
Ac ar y chwith mae Menai'n las,
Gwyrddlasach tua'r glannau,
Lle teifl y coed eu glesni glwys
Ar lesni dwys y tonnau.

***
Gyr imi hanes, gynnes gân,
"Morynion glân Meirionydd,
Fel yr addewaist imi'r pryd
Y'u gweiit gyd a'i gilydd;
Mi ganaf innau ganig lon
Am lannau'r afon lonydd.

Ac hefyd am forynion Môn
Y clywaist "sôn am danynt,"

Pan gaffwyf brofi peth o'r gwin
Ar fin rhyw un ohonynt,
A mwy na darn o un prynhawn
I ganu'n iawn am danynt.


Nodiadau

golygu
  1. Owen Morgan Edwards