Caniadau John Morris-Jones/Llythyrau at O.M.E. 2

Llythyrau at O.M.E. 1 Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Llythyrau at O.M.E. 3

II

Rhagfyr 1886.

I Fynwy fawr o'r Fona fau,
O lannau Menai lonydd
I lannau Hafren lydan lon,
At union bert awenydd,
Cyfeirio cerdd am gerdd a wnaf,
Os medraf, megis mydrydd.

Yr oedd dy awen degwen di,
Pan ganai hi ers dyddiau,
Yn chware'n nwyfus ac yn llon
Ar hyd y tynion dannau,
 bysedd ysgeifn iawn, a'i llais
"Fel adlais nefol odlau.

Ond mae yr awen feinwen fau
Dan ocheneidiau 'n nychu—
Yr eira ar Eryri wen,
A'r awen bron a rhynnu;
Ac yn fy myw ni fedrwn i
Gael ganddi gynnig canu.


Hiraethu mae am dywydd braf,
Am haf a mis Mehefin,
A thyner chwa i gusanu'i min,
A'i hafaidd hin gysefin;
Er hyn, os gall, hi byncia dro
Ryw eco yn y ddrycin.

Pan geisiodd ddwaethaf eilio cerdd,
'R oedd daear werdd o'i hamgylch,
A Menai'n gwenu'n nhywyn haul,
Ac araul las awyrgylch;
Yr heulog haf amryliw cain
Ddisgleiriai'n wiwgain ogylch.

Nid oes yn awr ond daear wen,
A nen a Menai dduaf;
Fy Menai arian, lân, liw tes,
A'i chynnes wên Orffennaf—
Yn awr hi dremia gyda gwg,
Haearnaidd gilwg arnaf.

Er hyn i gyd, mi godais
Gyda'r wawr;
Trwy eira yr anturiais,
Gyda'r wawr;
A thrwy'r gaeafwynt oerddig,
Ac at y llyn cloëdig,
A gwelais deg enethig
Yn llwybro yno'n unig, gyda'r wawr.


Eisteddodd ennyd wrth y llyn
I siarad gair â mi;
Rhois innau'r llithrell dan ei throed,
Ysgafndroed, hoywdroed hi.

Ac yna gwibio freichfraich
Hyd wyneb llathr y llyn;
Ehedeg yma ac acw
Ar draws, ar hyd y llyn;
Anghofio oerwynt gaeaf,
Anghofio'r eira gwyn.

Ac wrth i ni brysuro'n
Gyflymach ar ein hynt,
Ei lliwddu wallt chwareuai
Yn ddifyr yn y gwynt,
A'r gwynt yn paentio'i deurudd
Yn gochach fyth na chynt.

Dywedodd, wrth ymado,
Na chawn mo'i gweled eto
Tan yr haf a than y caf
Droi adre'r amser honno.

A phan ddaw'r atgof imi
Na wela'i 'rhawg mohoni,
"Tros fy ngran, ledchwelan iif,"
Rhed dylif hylif heli.

***


Nodiadau

golygu