Caniadau John Morris-Jones/Llythyrau at O.M.E. 3
← Llythyrau at O.M.E. 2 | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Moes → |
III
Rhagfyr 6, 1889.
Aeth llawer diwrnod dros fy mhen
O heulwen a chymylau,
Mi welais wenau'r byd a'i ŵg—
Ond mwy o'i ŵg na'i wenau—
Er pan ges weld dy wyneb llon
I dirion wrando d'eiriau.
Ac yn y misoedd meithion hyn
Un emyn ni chylymais,
Na chân na salm ni chenais i,
Na rhigwm ni rigymais;
Anghofiodd fy neheulaw'n lân
Y gynnil gân a genais.
Pan oedd pob pren o brennau'r maes
Yn llaes ei fantell werdd,
A phob aderyn yn y llwyn
Yn gorllwyn melys gerdd,
A'r ddaear dan ei chwrlid gwyrdd
A'i myrdd o flodau mân,
Yr oeddwn i mewn cyni maith,
Heb afiaith chwaith na chân.
Distawodd cerdd y llwyn yn awr,
Diflannodd gwawr y rhos,
Fe gwympodd dail fe giliodd haf,
Daeth gaeaf a daeth nos.
Rhyw lili'r eira ydwyf fi,
Ond bod y lili'n dlos,
Neu eos, heb ei miwsig hi,
Yn canu yn y nos.
Pa fodd y canaf it fy hynt ?
Fy helynt a fu flin ;
Mi ges o wermod gwpan llawn,
A chydig iawn o win.
Ni wn paham y canwn am
Y wermod ar fy min;
Ac mae i ti athrylith gref
A wybydd am y gwin .
....
Gan hynny'n awr distewi wnaf,
Ni chanaf yn ychwaneg,
Ond imi gael gan fawr ei glod,
Wr hynod y ddwyfronneg,
Dy fod ar fedr ymweld ar frys
Â'r ynys ar y waneg.
Ac os i Ynys Fôn y doi,
(A pham na ddoi di weithion ?)
Mae aelwyd ŵyl a rydd i ti,
Os coeli, groeso calon;
Hyd hynny derbyn gyfarch cu
Dy gyfaill gyd a'i gofion.