Caniadau John Morris-Jones/Fel y lloer a'i delw'n crynu

Mae iar fach yr haf yn caru'r rhos Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Y lili ddwr freuddwydiol

XXVII

Fel y lloer a'i delw'n crynu
Ar gynhyrfus donnau'r lli,
Hithau'n tawel grwydro'i hawyr
Las ddigwmwl hi;

Felly crwydri dithau, f'annwyl,
Hyd dy lwybrau tawel di;
Tra mae 'th ddelw'n crynu, crynu
Ar fy nghalon i.



Nodiadau

golygu