Caniadau John Morris-Jones/Y lili ddwr freuddwydiol
← Fel y lloer a'i delw'n crynu | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Rhyw adeg yr oedd hen frenin → |
XXVIII
Y lili ddŵr freuddwydiol
A edrych fry o'i llyn,
A'r lloer deif ati olwg
Hiraethus serchus syn.
A'i phen a blyg y lili,
Wyleiddiaf lili 'rioed;
A'i chariad gwelw wedyn
A genfydd wrth ei throed.