Caniadau John Morris-Jones/Rhyw adeg yr oedd hen frenin
← Y lili ddwr freuddwydiol | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Fry ar eurdroed ofnus esmwyth → |
XXIX
Rhyw adeg yr oedd hen frenin
Trwm ei galon a brith ei ben;
A'r brenin hen a briododd
Forwynig ifanc wen.
'R oedd gwas ystafell ifanc
Melyn ei ben ac ysgafn ei fron
I gario rhuglwisg sidan
Y frenhines ifanc lon.
A wyddost ti'r hên hên hanes
Sy'n hanes mor dlws, yn hanes mor brudd?
Rhy gryf ydoedd cariad; marw
A orfu i'r ddau'r un dydd.