Caniadau John Morris-Jones/Fy machgen, cyfod, dal dy farch

Brydferth grud fy holl ofalon Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

O'm dagrau i, fy ngeneth

III

Fy machgen, cyfod, dal dy farch,
Ac esgyn arno'n hy;
Dros fryn a dôl carlama i lys
Y brenin Duncan fry.

A llecha tua'r stablau nes
I'r gwas dy weled di,
A gofyn, "pwy'r ddyweddi deg,
"Pa ferch i'r teyrn yw hi?"

Os dywed ef "y ddu ei gwallt,"
Dwg hynny'n ebrwydd im;
Os dywed ef "yr oleu 'i phryd,"
Ni raid it frysio dim.

Ond dos i dŷ'r rheffynnwr draw,
A phryn im reffyn praff,
Yn araf tyrd heb yngan gair,
A dyro i minnau'r rhaff.


Nodiadau

golygu