Caniadau John Morris-Jones/O'm dagrau i, fy ngeneth

Fy machgen, cyfod, dal dy farch Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Ers myrddiwn maith o oesoedd

IV

O'm dagrau i, fy ngeneth,
Y cyfyd blodau glân;
A thry fy ucheneidiau'n
Eosiaid yn gôr o gân.


Os ceri di fi, fy ngeneth,
Mi rof y blodau i ti;
Ac wrth dy ffenestr yr eilia
Yr eos ei chanig hi.


Nodiadau

golygu