Caniadau John Morris-Jones/Mae iddynt gwmpeini heno
← Eneth a'r perloywon lygaid | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
O na allwn gynnwys mewn ungair → |
XXII
Mae iddynt gwmpeini heno,
Goleuni sy'n llenwi'r ty,
Cysgod dy lun sy'n ymsymud
Yn y ffenestr oleu fry.
Ni'm gweli obry'n y tywyll
Mor unig, fy ngeneth lon;
A llai o lawer y gweli
I'r galon dywyll hon.
Fy nghalon dywyll, dy garu,
Dy garu a thorri mae hi,
A thorri a churo a gwaedu,
Ond O, nis gweli di.