Caniadau John Morris-Jones/O na allwn gynnwys mewn ungair

Mae iddynt gwmpeini heno Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Mae gennyt emau a pherlau

XXIII

O na allwn gynnwys mewn ungair
Y tristwch sy dan fy mron;
Mi a'i rhoddwn i'r llon awelon
I'w gludo ymaith yn llon.

Ei gludo i ti, f'anwylyd,
Y gair o dristwch, hyd pan
Ei clywit ef ar bob adeg,
Ei clywit ef ym mhob man.


A pheunoeth cyn i'th amrannau
Mewn cwsg ymgyfwrdd ynghyd,
I'th freuddwyd dyfnaf, f’anwylyd,
Y'th ddilynai fy ngair o hyd.


Nodiadau

golygu