Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Anerchiad Priodasol i Mr a Mrs Williams

Cwyn y Caethwas Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Ar finion y Llyn

ANERCHIAD PRIODASOL
I Mr. a Mrs. Williams, Tynewydd, Llandderfel.

DAU anwyl wedi 'u huno,—a'r gydiol
Aur gadwen sy'n urddo;
A llwyddiant heb ball iddo,
A'i Efa fwyn efo fo.

Dau lanwedd yn cydloni—a welwn
Yn William a'i Lizi;
Dau unwyd er daioni
Yn glod a nerth i'n gwlad ni.


Nodiadau

golygu