Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Cwyn y Caethwas
← Jane E Rees | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Anerchiad Priodasol i Mr a Mrs Williams → |
CWYN Y CAETHWAS
(Efelychiad)
CAETHWAS wyf o'm cartref dedwydd,
'Rhwn adewais ar fy ol
Er mwyn elw i ddyeithriaid
'Rhai tros foroedd ddaeth i'm hol;
Gwyr o Frydain ddaeth i'm prynu,
Rhoesant olud am fy nerth,
Ac fe 'm rhestrwyd yn eu rhengoedd, -
F'enaid nid oedd hwn ar werth.
Mae fy meddwl yn rhydd eto,
Beth yw rhyddid Prydain Fawr?
Ai llabyddio'r negro druan,
A'i orlwytho ef i lawr?
'Os yn ddu, nis gallaf rwgnach,
Natur imi'r lliw a rodd;
Ond mae'r enaid yr un ffunud
Yn y gwyn a'r du 'r un modd.'
'Ydyw natur wedi rhoddi
Y planhigyn hwn i ni
I'w ddwfrhau a'm dagrau heilltion
'Rhai a lifant arno 'n lli?
Cofiwch chwi y creulon feistriaid
Pan o gylch aelwydydd clyd,
Am y briwiau ddarfych roddi
Ar y caethwas du ei bryd.
'Oes 'na un, fel y dywedwch,
Yn teyrnasu uwch eich pen,
Yn gorchymyn i chwi 'n prynu,
O'i anfarwol orsedd wen?
Ha! gofynwch iddo heddyw
Ydyw'r fflangell greulon gref
Yn cyd-fyned a dyledswydd
Dyn, neu gyfraith fawr y nef.'
'Na, mae'r ateb yn taranu
Yn udiadau croch y don
Pan yn golchi traethau noethlwn
Affric fawr,—mae'r genad hon—
Yn ymlamu trwy'r gwastadedd
Ac yn rhuo Na, o hyd,—
Yr un yw Duw i'r caethwas druan,
Yr un yw Duw trwy yr holl fyd.'
Trwy ein gwaed yn Affric anwyl
Cyn ein dodi yn eich cell,
O'r fath boenau chwerwon gawsom
Pan yn croesi 'r moroedd pell!
Gorfu ini, pan ein prynwyd,
Yn y farchnad ddynolryw,
Ddyodde 'r oll yn amyneddgar
A'n calonau 'n gleisiau byw!
Na chondemniwch mwy y caethwas
Heb resymau o unrhyw,
Rhaid cael achos hefyd cryfach
Na bod ni yn ddu ein lliw;
Elw ydyw gwraidd y pechod—
Elw gaed trwy 'ch gallu chwi,
Profwch ini faint eich cariad
Cyn amheu ein cariad ni.