Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Cyn i'm huno
← Blodeuglwm ar fedd E Leary | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Mor ddedwydd 'roeddem ni → |
CYN IM' HUNO
(Efelychiad)
M bob ffafr ddangoswyd ini
Heddyw gan fy Nuw Ior,
Diolch wnaf i'r Iesu.
O fy Nuw! beth allaf roddi
Am dy fawr ofal di?
Noddwr pob daioni.
Paid a'm gadael byth yn angho',
Boed dy hedd imi 'n rhan
Nes cyrhaeddaf yno.
Tyr'd, ymwel a mi yn ddyddiol,
Tyr'd yn nes,—aros di
Gyda mi 'n wastadol.