Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Blodeuglwm ar fedd E Leary
← Ymadawiad y Cymro | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Cyn i'm huno → |
BLODEUGLWM AR FEDD MR. EDWARD LEARY
YR Eglwys fel rhyw weddw brudd
Alarai am ei phlentyn,
A dagrau geir ar lawer grudd
Sydd heddyw yn ei ddilyn;
Mae'r oll yn dystion byw di-nam
Fod yma gydymdeimlad,
Ond beth yw hyn i ddagrau'r fam
Sydd heddyw yn amddifad ?
Pwy all ddesgrifio teimlad mam?
Rhy anhawdd ydyw hyny,
Ond melus iddi 'r adgof am
Ei lyniad wrth yr Iesu;
O! boed i'r dagrau chwerwon hyn
Ddiflanu oddi ar y gruddiau,
Mae'r hwn fu ar Galfaria fryn
Yn gwrando ein gweddiau.