Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Ymadawiad y Cymro

Dathliad priodasol i Mr C. E. J. Owen Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Blodeuglwm ar fedd E Leary

YMADAWIAD Y CYMRO.

DROS erchyll fynyddau yr eigion,
Fel pe ar adenydd y gwynt,
Cyflymai y City Chicago,
Yn hoyw a hwylus i'w hynt;
Er gwaethaf ystormydd echryslawn,
Er garwed y berw di-ail,
Ymlaen yr ä'r llestr odidog
Fel awel trwy ganol y dail.

Ac yno 'roedd bachgen o Gymro
Yn myned o fynwes ei wlad,
A'i eiriau diweddaf cyn cychwyn
Oedd ffarwel fy mam a fy nhad.

Mor hardd ac urddasol edrychai
Y llong pan yn gadael y lan;
Er hyny cynddeiriog dymhestloedd
Wnai 'mosod ar hon yn y man;
Rhyw amser ofnadwy oedd hwnw
Tra'n disgwyl am doriad y wawr,
A phawb bron gwallgofi gan ofnau
Y suddent i'r dyfnder i lawr.

Ac yno 'roedd bacbgen o Gymro, &c.


Ond torodd y wawr yn ei hadeg,
Tawelodd cynddaredd y môr,
Penliniodd pob enaid oedd yno,
Gweddiau arlwysid yn stôr;
Am enyd distawrwydd deyrnasai
Oedd ail i ddistawrwydd y bedd,
Llawenydd siriolai eu calon,
A gweddi ddanghosai eu gwedd.

Ac yno 'roedd bachgen o Gymro, &c.

Yn awr yn ei anterth yr huan
Ymddyrchai yn frenin y dydd,
Gan wresog sirioli holl anian
A'i lygaid yn fflamllyd y sydd ;
Y wylan o ogylch ehedai,
Rhyw swynol olygfa oedd hon ;
Ac yna i'r dyfroedd disgynai
Gan nofio mor ysgafn ei bron.

Ac yno 'roedd bachgen o Gymro, &c.

Tra'n syllu tros wely yr heli,
Adseiniodd y gair, Wele dir;
Ar hyn y peiriant ddolefai,—
Ei grochlef oedd uchel a chlir ;
'Roedd penau coronog y bryniau
I'w gweled yn eglur draw, draw,
A'r coedydd ireiddlawn cauadfrig
Yn harddu y lle ar bob llaw.

Ac yno 'roedd bachgen o Gymro, &c.

Ha! dacw y porthladd i'w weled,
Baneri yn chwifio'n eu lle ;
A'r City yn dyfod a'i theithwyr
I'w harllwys ar finion y dre ;
Yn nghanol y teithwyr siriolwedd
Fe welid y Cymro dinam,
A sibrwd ei galon y geiriau
"'R'wyn ddiogel fy nhad a fy mam."

Ac yno 'roedd bachgen o Gymro, &c.

Nodiadau

golygu