Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Er cof am S J Edwards

Y Blodau Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Odlau Hiraeth am Wyndham

ER COF

Am S. J. Edwards, merch Mr. a Mrs. J. Edwards, Mount Street, Bala.

Mewn mynwent fach ar fin y Llyn,
Mewn tawel fan yn huno,
Mae'r plentyn tlws a fu cyn hyn
Ar fron ei mam yn sugno;
Gerllaw y bedd mae'r ywen werdd
Yn sisial trwy'r awelon;
A'r adar mân yn pyncio'u cerdd,
Mor fwynaidd ei hacenion.

Gofynodd Sarah Jane i'w thad,
A wnewch chwi fy nymuniad?
Gan bwyntio bys ar lecyn hardd,
Tra'r ydoedd hi yn siarad;
Fy nhad! fy nhad! gwnewch i mi fedd
Ar fin y llwybr yma,
'Rwy'n hoffi hwn yn ail i chwi,
A wnewch chwi hyn fy NHADA.

Edrychai yntau arni 'n syn,
Wrth wrando 'i hymadroddion,
'Fy mhlentyn tlws, fy ngeneth fwyn,
Mi wnaf dy holl orchmynion;
Ychydig wyddai ef pryd hyn
Fod angeu erchyll elyn,
Yn chwareu'i gleddyf miniog llym,
Uwch ben ei anwyl blentyn.

Ei theulu hoff, na fyddwch drist
Mae bywyd a thangnefedd
I bawb sydd heddyw'n huno 'Nghrist
Ond gofyn am drugaredd;
A marw ddarfu Sarah fach
I fyw yn mhlith angylion,
A'i cholled yma enill yw
I'r lliaws o'r nefolion.


Nodiadau

golygu