Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Odlau Hiraeth am Wyndham

Er cof am S J Edwards Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Os mathrwyd y gelyn

ODLAU HIRAETH

Am Wyndham, plentyn Mr. a Mrs. Richards, 91, High street, Bala.

FLODEUYN hoff, flodeuyn hardd,
Pa le, pa le 'r wyt ti?
O! WYNDHAM BACH, teg rosyn gardd,
O! dywed wele fi;
Ond ust! ar fraich yr awel gref,
Dychmygaf glywed un
Yn dweyd fod WYNDHAM yn y nef
Yn mreichiau 'r Iesu cun.

Mae edrych ar ei gadair wag
Yn peri poen i'r fam,
Yr hon a roddodd faeth a mag
I'r bychan tlws dinam.
Ha! sychwch chwi eich dagrau prudd,
Mae ef yn well ei le
Yn nghwmni hoff "hen deulu'r ffydd,"
Tan goron aur y ne."

Mor ryfedd ydyw trefn fy Nuw,
Mor ryfedd onide?
Cymeryd wna y blod'yn gwiw
Gan adael yn ei le
Y ceubren crin i ofal byd,
Yr hwn yn ol drachefn
A erys wrth y gwag oer gryd;
Ond dyna yw y drefn.

Nid oes blodeuyn bach ar goll,
Yn nhrefn anfarwol Duw,
Mae ef yn gwybod am yr oll
O deulu 'r ddynolryw.
Os marw wnaeth eich WYNDHAM BACH,
O cofiwch hyn o hyd,
Mae yn y nef yn canu 'n iach
I Dduw mewn arall fyd.


Nodiadau

golygu