Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/O dan y Dderwen
← Er cof am Laura Jane | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Pryddest Yr Ardd → |
O DAN Y DDERWEN
DAN y dderwen unig
Eisteddai geneth dlos—
Ei gwallt fel aur plethedig,
A'i dwyrudd fel y rhos,
Ei llygaid glas mor siriol
A'r disglaer ser uwch ben,
Yn gwenu mor naturiol,
Yn llawn o swyn cyfriniol,
Fy hoff angyles wen.
Yn mrig y dderwen unig
PTelorai cor y llwyn
Eu nodau bendigedig
Oedd lawn o nefawl swyn;
Er mwyned oedd y lleisiau
Oedd fry ar frig y pren,
Mil mwynach i fy nghlustiau
Oedd arwyl, anwyl eiriau
Fy hoff angyles wen.
Gerllaw y dderwen unig
Ymlechai bwth fy mun,
Ei furiau 'n orchuddedig
A myrdd o flodau cun :
Amryliw oedd eu lliwiau—
Fel enfys uwch fy mhen;
Er hyn beth oedd y blcdau
I mi yn ymyl gwenau
Fy hoff angyles wen.
Mae tan y dderwen unig.
Yn gysegredig fan
I mi, a'r hoff enethig
Sydd bellach imi 'n rhan;
O dan ei gwyrddlas frigau
Y traethwyd gynt y llen,—
Gwrandawyd ar y geiriau,
Ac unwyd dau hyd angau,
Fy hoff angyles wen,