Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Pryddest Yr Ardd
← O dan y Dderwen | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Jane E Rees → |
PRYDDEST.—YR ARDD
YR Ardd, a phwyntel anfarwoldeb Duw'y Tad
A'i ddwyfol law a baentiodd fyrdd
O flodau tirf yn geinwych, a'u gogoniant hwy
A ddeil hyd ddiwedd amser byd ;
Ni fedd mug gelf ddim, ddim mwy cain na'r blodau mân
A'u ffrwythau per sydd yn yr ardd.
Y dydd fe wylia'r haul, a'r nos fe wylia'r ser,
Yn ddistaw, ddistaw, olygfeydd yr eirdd;
A'r awel fwyn ysgydwai 'n llon y ffrwythau ter,
Gan siglo mirain gryd y gemau heirdd,
A'r chweg aroglau yno daenir gan y gwynt,
Ar fraich yr hwn yr ânt i swyno byd;
A chrwydrant law yn llaw a'r awel yn ei hynt,
Gan adael deigryn bychan yn mhob cryd
Yr hwn yn wylaidd erys, gwyrai 'i ben i lawr,
Fel pe yn disgwyl genedigaeth dydd,—
Yr hwn fel angel ddaw ar doriad cynta 'r wawr
I sychu'r dagrau hardd oedd gynt mor brudd ;
I'w freiniol gol yr haul gofleidia'r gemawl wlith,
A gwena ar ei gorsedd swynol hwy.
A draw oi eurog sedd, o wlad y gwawl i blith
Y blodau wenant arno mor ddiglwy';
Fe ddeffry anian dlos a chodai plant yr ardd
Eu penau fel i gwrdd a chawr y dydd;
Croesawant ef, a'r awel rhwng y dail a chwardd
Yn llon, yn llon, yr hon oedd gynt yn brudd.
Ac wedi trwmgwsg, wele natur ar bob llaw
Yn deffro; clywir o eisteddle 'r dail
Y cor asgellog, fel yr engyl yn ddi—fraw,
Yn pyncio 'i nefol odlau bob yn ail,
A'r ardd a wisgir à chain dlysni blodau blydd,
A gwenant yn eu harddwch arnom ni;
Yn siriol iawn, trwy fyrdd o lygaid bach y dydd,
Fe welwn eto Eden yn ei bri.
Rhyw fan ddymunol ydyw 'r ardd i ddyn
I weled natur yn ei pherffaith lun,
Mae enaid anian yno ar bob llaw,
I'r Cristion, cysgod yw o'r byd a ddaw;
Y coedydd ffrwythlawn yno hefyd gawn
Yn gwyro 'i breichiau dan ei lluniaeth llawn:
Mae'r oll yn tystio gwerth y dwyfol Dad
Sy'n gwenu arnom ni o'r nefol wlad.
Pe gwybid beth yw'r ffrwythau mirain cun,
Trwy hyn ceir gwybod beth yw Duw a dyn;
Ond trefn anfeidrol ydyw hon nas gall
Y ddynolryw byth ganfod ynddi wall,
Na'i hefelychu chwaith, na thynu llun
Prydferthwch gardd 'r un fath a hi ei hun.
Pe mathrid dim ond deilen fechan gron,
Mae eisieu rhywun mwy na dyn at hon,
Er iddo trwy fug gelf wneyd pethau hardd,
Mae'n rhaid cael Duw i greu tlysineb gardd;
Er gosod dyn yn frenin byd, nid yw
Ond gwas mewn gair wrth alwedigaeth Duw;
Mae ef 'r un fath a'r ddeilen ddiwedd ha'—
Fe syrth i lawr, yn ol i'r pridd yr a;
Ond cyfyd dyn ar alwad udgorn Daw,
Ar foreu 'r farn fe 'i gwelir eto 'n fyw;
Fel blod'yn bydd y Cristion, O! mor hardd
Ei wedd, wrth draed yr lor, mewn dwyfol ardd.
Fel disglaer fod ar hynt o wlad goleuni,
Yr eira glân yn fantell guddia 'r gerddi;
Mae ynddo ef rhyw swyn dihalog weithian,
Gosoda fyrdd o berlau 'n nghoron anian.
O tan y glog mae'r tyfol fyd yn gorwedd
Mewn tawel hun, neu gwsg mewn unig anedd;
Mor bur yw'th wisg, ymwelydd, mor ddeniadol,
Wyt eilun o dlysineb gwisgoedd nefol.
Ha! eira glân, rhy bur wyt ti, 'rwy'n credu,
I aros yma'n hir mewn byd sy'n pechu;
Ti geidw yn ofalus yr holl hadau
Orweddant danat fel cuddiedig berlau:
Mor llesol ydwyt ti i'n daear, halen,
Anrhaethol werth yw'th rin o law dy herchen.
Ymwelydd hoff, pe deuit yma'n amlach,
Fe argyhoeddet gymeriadau duach
Na'r ffrwythau cain yr ardd, sydd yma,
O dan dy amdo, fendigedig eira.
Daw byd o dân, o'r dwyrain draw i'r golwg,
I doddi'r fantell wen oedd gynt mor amlwg;
Yr hwn a adfer eto wisgoedd sidan,
Trwy hardd belydrau'r haul fe drwsir anian.
A'r ardd' a ddengys fyrdd o fân deleidion,
Mewn tlysni ac aroglau blodau glwysion.
Mor ddestlus ac ardderchog ydyw'r ffrwythau
Sy'n hongian yn y coedydd ar y brigau:
Mor swynol ydyw'r oll i'r garddwr siriol,
Sydd a'i holl egni gyda rhai'n yn ddyddiol
Yn gwylio yn ofalus uwch eu penau,
Ac yn trin y pridd, - yna rhydd yr hadau
Mewn tyfol le, arhosant yno enyd;
Daw yntau o ddydd i ddydd i wel'd y bywyd,
Er nad yw'n deall hwn, mae'n gwel'd'r Anfeidrol
Yn gwneyd yr ardd 'run fath a'r Wynfa Nefol.
Y llysiau draidd i gwrdd a gwres yr huan,
Mae iddynt hwy fel llygad Duw ei hunan.
Daw'r nefol wlith, a'r hyfryd wlad i feithrin,
Ac adnewyddant hwy y tyner egin;
Caiff yntau'r garddwr weled fel mae'r ffrwythau
'N addfedu'n brydlon erbyn eu tymhorau;
Fel hyn, er boreu cynta'r greadigaeth,
Fe welir llaw yr Ior yn estyn lluniaeth,
A merch y nefoedd sydd yn dangos ini
Drugaredd yn ei chynyrch ddirifedi;
Ac O! na allem ddiolch iddo'n gyson
Am ffrwythau anmhrisiadwy sydd yn frithion
O fewn yr ardd; hwy wenant ddiolch iddo
O fyrdd o lygaid gloewon, syllant arno.
Tra safai dyn yn fud, nis gall ef edrych
Yn wyneb Crewr a Chynhaliwr cynyrch,
Amryliw flodau, wenant yn wastadol
O'u gorsedd glaer, fel pe mewn byd estronol,
Mae'r oll yn dangos i ni mor anrhaethol
Yw cariad Duw, at ddyn trwy drefn anianol.
Yng nghanol unigedd y mynydd,
Ar finion dymunol y nant:
Mae'r bwthyn sy'n fyw o lawenydd
Yn swn bendigedig y plant;
Diaddurn yw'r muriau gwyngalchog,
Er hyny ei berchen a chwardd
Wrth weled y gwanwyn toreithiog,
Yn gwenu ar fynwes ei ardd.
'Does unman i'r gweithiwr mor anwyl
A'r llecyn wrth dalcen y ty,
Mae yno mor hapus a'r engyl,
O'i feddwl pob helbul a ffy;
Mae'n gweithio hyd wylnos yn serchog,
A theimla ei hunan yn fardd,
Wrth weled y gwanwyn toreithiog
Yn gwenu ar fynwes ei ardd.
Ha! nefoedd i'r gweithiwr yw'r llecyn,
Sy'n llechu yn ymyl y ty,
Ac yno bob boreu o'r bwthyn
Y crwydrai i weled y llu,
Sy'n gwenu o garpet ardderchog.
Y ddaear mor swynol a hardd,
I'w gweled y gwanwyn toreithiog
Sy'n gwenu ar fynwes ei ardd.
Yr "Ardd," pa fan yn ngreadigaeth dwyfol ?
A hawlia fwy o glod gan yr hil ddynol,
Yn hon dioddefodd Crist, ddiniwed Iesu
Ing enaid, do nes iddo'n waedlyd chwysu.
Y Duw yn creu yr "Ardd," yr Eden swynol
I ddyn i fyw yn ddedwydd, er yn 'feidrol ;
Ond wele'r 'meidrol yn ngardd Gethsemane
Yn rhoi y Duw anfeidrol yno i ddiodde'.
Gwasgfeuon chwerwon, mor ofnadwy ydoedd;
Pan oedd y Ceidwad cyfiawn yn yr ingoedd,—
Yr haul fel pe i wylo, drodd o'i gylchdaith,—
Ymguddio wnaeth o olwg yr erchyllwaith,
A chreigiau crog y ddaear a ddatodwyd
Pan waeddodd Iesu 'i olaf air, Gorphenwyd!!
Gadawodd Duw ei hunan ef am enyd
Yn Aberth tros bechadur am ail fywyd.
Trwy ei ddioddefaint, fe agorwyd ffynon
A ylch yn wyn, y duaf yn mhlith dynion
Trwy rinwedd gwaed yr Iesu, golchi'r pechod,
Yr hwn i'r byd a ddaeth trwy anufudd—dod,
Ufudd—dod perffaith Crist yn Gethsemane
Agorodd ffordd, i'n rhoddi o'n cadwynau,
Fel gallwn gael molianu yn oes oesoedd
Yn Ngardd yr Arglwydd grasol yn y Nefoedd.