Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Odlau hiraeth am Mr E. Edwards
← Cadeiriad Taliesin Fychan | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Y Barug → |
ODLAU HIRAETH
Am Mr Edward Edwards, Penbryn Cottage. Dolgellau.
YN Hydrei ei fywyd disgynodd
Fel deilen wywedig i'r bedd,
A'i anwyl hoff deulu adawodd
Mewn galar yn athrist eu gwedd;
Mor chwith ydyw gweled yr aelwyd,
Yn unig a gwag heb yr un
Fu gynt yn gofalu yn ddiwyd
Er cysur i'w deulu trwy'i fywyd,
Ond heddyw mor dawel ei hun.
Os gofyn rhyw estron, beth ddarfu
Ein cyfaill i haeddu'r fath barch?
Caed ateb ar ddiwrnod y claddu,
Yn nifer dilynwyr ei arch;
Pryd hyny fe welwyd cyfeillion
Ei fywyd yn welw eu gwedd,
Wrth gofio am un fu mor ffyddlon
Ac anwyl yn mhlith ei gyd-ddynion,
Yn gorwedd yn fud yn ei fedd.
Eneiniwyd ei feddrod a dagrau,
Ddisgynent fel mân wlith i lawr,
Gan wlychu y prydferth heirdd flodau
Orchuddia ei feddrod yn awr;
Ond adfer y mân wlith y blodau
A welir yn britho y fan,
Nid digon er hyny yw'r dagrau
I adfer yr hwn trwy law angau,
Orwedda yn ymyl y Llan.
O bydded i dad yr amddifaid
Amddiffyn y teulu trwy'i hoes,
A'u harwain i freichiau y Ceidwad,
A'u cadw o gyrhaedd pob loes;
Os collwyd un anwyl o'r teulu,
Mae GOBAITH yn dweyd ei fod ef
Tan ddwyfol arweiniad yr Iesu,
Fry, fry gyda'r engyl yn canu
Hoff anthem dragwyddol y nef.