Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Cadeiriad Taliesin Fychan

Odlau hiraeth ar ol J. Owen Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Odlau hiraeth am Mr E. Edwards

CADEIRIAD TALIESIN FYCHAN
Yn Eisteddfod y Bala, 1893.

TANIODD, swynodd Sasiynau—y Bala
Y byw eilydd goleu;
Ein harwr yw'r gwr fu'n gwau,
Ei hyawdledd nef odlau

Geiriau anwyl y gwr enwog,—a geir
Yn gywrain a lliwiog;
Taliesin wir fardd tlysog,
A'i nefol gân fel y gog.

Yn Tyn y Coed tanio can —a wna ef,
Taliesin Fychan;
A'i awen dirf enyn dân
Yn oleuni hael anian.


Nodiadau

golygu