Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Odlau hiraeth ar ol J. Owen
← Y Dwyfol Waredwr | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Cadeiriad Taliesin Fychan → |
ODLAU HIRAETH
Ar ol Mr. John Owen, Blue Lion, Bala
YN haf-ddydd ei einioes un eto gymerwyd,
I'r llanerch oer unig ar finion y Llyn,
Yn nghanol ei ddyddiau-gwynebodd yr ail fyd,
Fe groesodd trwy niwloedd caddugawl y glyn;
Nis gall y darfelydd ddesgrifio y teimlad
Sydd heddyw mor amlwg yn rhwygo fy mron,
Mae adgof am burdeb ei hoffus gymeriad
Yn gwanu fy nghalon wrth gofio am John.
Beth, beth yw fy nheimlad i deimlad y weddw,
A welir yn wylo mor drist yma'n awr?
Rhy fychan yw geiriau i ddweyd pa mor chwerw
Yw'r dagrau sy'n treiglo ei gruddiau i lawr;
Ond trwy yr heillt ddagrau mae tad yr amddifad
I'w ganfod yn estyn ei gymhorth o hyd,
Yn nghanol y tristwch mae'n dangos ei gariad
Anfeidrol yn nhrefniad dirgelion y byd.
Mor brydferth yw'r blodau sy'n hulio y beddfan
Lle gorwedd yr anwyl John Owen mewn hun,
Ond llawer prydferthach oedd ef i ni weithian,
Na'r blodau amryliw er hardded eu llun;
Mor brudd ydoedd gweled ei blant bach yn wylo
Eu lagrau fel gwlith yn eneino y fan,
Er colli eu TADA, mor anwyl fydd cofio
Y llecyn lle gorwedd yn ymyl y Llan.
Mor ryfedd a dyrus yw trefn fawr Rhagluniaeth,
Mor annealladwy i fyd yw ei ffyrdd;
Mae'n gadael y ceubren crinedig mewn alaeth,
Tra'n tori'r planhigion pan oeddynt yn wyrdd;
Ond ymaith esgynant o gyrhaedd helbulon
Y byd a'i drueni am fwyniant a hedd,
Fry, fry mae'r planhigion yn berlau yn nghoron
Yr hwn a ddatododd erch ddorau y bedd.