Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Y Dwyfol Waredwr
← Castell Carn Dochan | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Odlau hiraeth ar ol J. Owen → |
Y DWYFOL WAREDWR.
(Miwsic gan R. O. Jones, Bala,)
DWYFOL Waredwr o'i fodd
A roddodd ei fywyd i'r byd,
Ei gariad yn llymaid a dôdd,
Cyn galw y dyfroedd ynghyd,
Cyn llunio'r planedau uwchben,
Cyn llunio y ddaear â dyn,
Cyn gosod yr haul yn y nen,
Fe roddodd yr Iesu ei Hun.
Y dwyfol Waredwr cyn bod
O bechod yn aberth a gaed,
Maddeuant trwy'r oesau sy'n do'd
Trwy rinwedd anfarwol ei waed;
Yr unig-anedig Fab Duw
Yn agor y nefoedd i ddyn,
Trwy ddyfod i'r ddaear i fyw
Fe roddodd yr Iesu ei Hun.
Y dwyfol Waredwr o'r nef
Fu'n dioddef ar groesbren cyn hyn;
Gorphenwyd,' 'gorphenwyd,' medd ef
Dan hoelion ar Galfari fryn ;
Pechodau holl gyrau y byd
Fu'n pwyso ar Dduw pan yn ddyn,
Ond talwyd y ddyled i gyd
Pan roddodd yr Iesu ei hun.