Caniadau Watcyn Wyn/Dringo'r Mynydd

Yr Aderyn Dû Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Esgyniad Elias

DRINGO'R MYNYDD.

DRINGO'r mynydd, hapus daith,
Er mai caled yw y gwaith;
Wedi cyrhaedd idd ei ben,
Cawn ein hanadl yn y nen!

Dringo bron y mynydd serth,
Colli'n hanadl, enill nerth;
Dringo i fyny—fyny o hyd,
Ar ei ben mae gwel'd y byd.


Dringo ochr y mynydd mawr,
Tua'r nef o sŵn yllawr;
Cawn ein talu am ein gwaith,
Wedi cyrhaedd pen y daith.

Dringo' r mynydd fyny o hyd,
Fyddo'nhymgais yn y byd;
Heibio i holl fynyddau' r llawr,
Fyny tua' r nefoedd fawr.

Nodiadau golygu