Caniadau Watcyn Wyn/Esgyniad Elias

Dringo'r Mynydd Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Pryse, Cwmllynfell

ESGYNIAD ELIAS.

MEWN cerbyd o'r byd dros y bedd,―hwyliodd
Elias uwch llygredd;
Aeth o'r glyn heb frath hir gledd
Angau'n hyf i dangnefedd.

Engyl, heb ddweyd wrth angau,—a'i cododd
Yn eu cedyrn freichiau;
I'w hynt mewn corff ai yntau,
I'r ne' glyd, aeth adreu'n glau.

Nodiadau golygu