Caniadau Watcyn Wyn/Y Côr Mawr
← Bydded, ac felly bu | Caniadau Watcyn Wyn gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
Marwolaeth yr Iaith Gymraeg → |
Y COR MAWR.
Y Côr yma o Gymru, a enillodd y Llawryf, gwerth Mil o
Bunnau, yn y Palas Crisial, 1872.
Y COR mawr, dirfawr, ha darfu,—i hwn
Enill clod i Gymru;
Ar ol hyn bloeddia rhyw lu ,
Wel, O ! 'n cenedl a'n cânu.
Wel, ïe,'n cenedl a'n cânu,—cânwyr
Yw 'n cenedl plant Cymru :
Cânu o fath eu cân ni fu
Odlau'n cenedl i'n cwnu .
Odlau 'n cenedl i'n cwnu,—i sylw
Sais eilwaith daw Cymru;
Daw 'n gwlad i'r làn dan gânu,
A'i chân bêr,—daw 'n uwch na bu.
A'i chân bêr daw 'n uwch na bu,—daw yn uwch—
Daw hyd nef â'i chânu;
Yn nwyf ei dôn yr 'Hen Of Du,'
A chyfoeth cân wna 'i dyrchafu.
Ei chyfoeth cân wna 'i dyrchafu,—i ben
Euraidd binacl cânu;
Mae gwŷr sain Llundain yn llu,
Rhag y rhain, yn rhyw grynu!