Caniadau Watcyn Wyn/Y Gwely

Parc Dinefwr Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Y Melinydd

Y GWELY.

Y GWELY hen, gwal i huno—lle addas
I roi lludded heibio;
Cawn roi'r byd i gyd dros go'
Yn ei gôl, bydd Duw'n gwylio.

Nos anedd i orphwys enyd—luniwyd
Rhwng gwlenyn esmwythglyd;
Heb awel na thwrf bywyd;
O naws haf, cynes o hyd.

Nodiadau golygu