Caniadau Watcyn Wyn/Y Melinydd

Y Gwely Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Y Peiriant Dyrnu

Y MELINYDD.

LLEIDRYN mor deneu a lledrith—er hynny
Hen gyfranwr bendith;
Ei glod ddaw gan rif y gwlith
I'r dyn gwyn, er dwyn gwenith.

Goludog borthwr y gwledydd—enwog
Gyfranwr dihysbydd;
I bawb daw blawd càn bob dydd,
O law wen y melinydd.

Nodiadau golygu