Caniadau Watcyn Wyn/Yr Enfys
← Chwedl | Caniadau Watcyn Wyn gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
Gwell genyf fod ar ol fy hun → |
YR ENFYS.
GROGEDIG dorch, a harddwch lon'd dy hanfod,
Yn crogi fel ar ael urddasol gawod:
Y nef yn gwisgo ei choronbleth liwiau,
Fel gwisga morwyn ei choronbleth flodau;
Y lliwiau wedi eu plethu â llaw goleuni,
Mor brydferth nes yw'r cain yn gwrido drwyddi.
O nefol ddarlun, ardeb caredigrwydd,
Yn cael ei ddal i'r byd yn ei berffeithrwydd,—
Pob lliw 'n y darlun wedi eu cymysgu,
Yn rhy farddonol dlws i'w gwahaniaethu ;
Ond gall y mwyaf cibddall ganfod ynddo,
Fod lliwiau heddwch yn cydredeg drwyddo—
Yn ymgofleidio, 'n toddi idd eu gilydd
Mewn hedd y'nghanol chwyldroadau 'r tywydd;
A gwefus tangnef yn yr haul belydrau,
Yn gwenu ar y byd drwy nefol ddagrau.
Rhyw ffurfiol fwa 'n cilio ond ymddangos —
Rhyw fwa heddwch heb un saeth yn agos,
Fel hen arf segur, eto 'n ddisglaer hawddgar,
Yn crogi o chwith i anelu at y ddaear;
Llun breichiau cariad at y byd yn estyn,
Fel am gofleidio 'r ddaear megis plentyn.
A'n cryfder yn y nefoedd yn cartrefu,
Lle mae'r cadernid oesol yn gorseddu;
Ar fynwes hedd o fewn y breichiau yma,
Gall daear wenu, dan y cwmwl dua'.