Casgliad o Ganeuon Cymru/Rhagymadrodd

Casgliad o Ganeuon Cymru Casgliad o Ganeuon Cymru

gan Thomas Arthur Levi

Cynwysiad

RHAGYMADRODD

MAE gair neu ddau o eglurhad yn ddyledus i'r darllenydd am fy ngwaith yn ymgymeryd a chyhoeddi llyfr fel hwn. Arweiniwyd iddo gan yr hyn a ganlyn. Rhyw ddwy neu dair blynedd yn ol, casglodd fy nhad rai canoedd o emynau a chaneuon o'i eiddo, gyda bwriad i'w cyhoeddi yn llyfr. Wedi gwneyd hyn, cafodd fod llawer o honynt yn cael eu hawlio fel copyright gan hwn a'r llall ; parodd hyn iddo roddi y bwriad heibio, ac aeth cryn lafur yn ofer. Wrth edrych drwy y pentwr hwn, tarawodd i fy meddwl y buasai yn dda genyf pe buasai casgliad go helaeth o ganeuon goreu a mwyaf poblogaidd Cymru mewn cyfrol daclus wrth law; y cyfryw ag a fuasai yn enill ein bryd fel pobl ieuainc i'w darllen, yn gweini i ni ddifyrwch a budd; ac yn foddion dysgyblaeth i'n meddwl a'n calon. Y rhai goreu o'r fath y tarewais i wrthynt ydyw, Ceinion Awen y Cymry, gan Gwenffrwd; a'r Garnedd Arian, gan y Parch. T. Hughes. Cyhoeddodd Gwenffrwd ei lyfr yn 1831, pan nad oedd ond ugain oed. Y mae yn dda iawn, ac yn profi ei fod yn wir fardd; ond y mae y rhan fwyaf o hono yn y mesurau caethion, a'r mesur penrydd, ac y mae hyny yn tynu oddiwrth ei boblogrwydd, ac yn lleihau yn fawr nifer ei ddarllenwyr. Mae darn helaeth o'r Garnedd Arian yn dda, ond nid yw yn ddigon helaeth.

Mae yn y casgliad presenol gryn lawer o amrywiaeth o ddarnau poblogaidd ac anfarwol, na chollant byth eu swyn ar galon Cymro. Y mae yn glod i Gymru y gellir gwneyd casgliad mor helaeth o gyfansoddiadau mor rhagorol, mor fyw o'r wir awen, mor bur eu chwaeth, ac mor grefyddol eu hyspryd. Yr wyf dan rwymau arbenig i'r boneddigion oedd a hawl copyright yn llawer o honynt, ac yn dymuno eu cydnabod yn y modd mwyaf diolchgar, am eu parodrwydd yn caniatau i mi gopïo y darnau poblogaidd hyn, gan hyderu na wna blas y briwsion yma ond ein gyru i geisio y gweithiau llawn. Y mae fy niolch yn arbenig yn ddyledus i'r Parch. T. Gee, am eiddo Gwilym Hiraethog ; i Mri. Hughes, Wrexham, am eiddo Ceiriog, a Chantata y Plant; i Mr. G. Lewis, Penygroes, am eiddo Eben Fardd; i'r Parch. Ellis Edwards, M.A., am eiddo ei hybarch dad ; ac i'r Parchedig Batriarch, R. Parry (Gwalchmai); y Parch. D. C. Evans; i Mr. Wm. Hughes, Dolgellau, am eiddo Emrys; i Dyfed, Watkin Wyn, H. Brython Hughes, Elfed, Iolo Caernarfon, ac amryw eraill. Ac os dygwyddodd i mi osod rhai i mewn heb ofyn cenad, trwy amryfusedd, neu anwybodaeth at bwy i anfon, erfyniaf faddeuant am bob cyfryw esgeulusdod ac anwybodaeth.

Un gair arall; anturiais osod i mewn, fel Attodiad, nifer o ddarnau o eiddo fy nhad, allan o'r pentwr oedd ef wedi gasglu, gan osod y gwreiddiol a'r cyfieithiadau ar wahan.

Cyflwynaf y llyfryn hwn i ddwylaw fy nghyd-ieuenctyd, gan gredu fod yr oll sydd ynddo o duedd dda, heb ddim i lygru chwaeth, na moes, na chrefydd. Gobeithiaf y bydd yn rhyw gymaint o foddion i'n cadw i lynu wrth ein hen iaith anwyl, ac i ganfod ei rhagoriaethau. Gall y llyfr hefyd fod o wasanaeth i gyfarfodydd llenyddol ac adroddiadol. Odid nad oes aml i ddarn poblogaidd wedi ei adael allan, ag y buasai yn ddymunol ei fod i mewn. Os bydd cyfeillion mor garedig a'u hawgrymu, a'm hysbysu am awduriaeth y darnau sydd heb enwau awdwyr wrthynt, byddaf yn dra diolchgar. Ac os dygwydd fod galw am ail argraffiad, bydd yn bleser genyf wneyd y diffygion hyn i fyny.

T. A. LEVI. ABERYSTWYTH,

Ionawr, 1896.

Nodiadau

golygu