Categori:Trysorfa y Plant
"Trysorfa y Plant, 1862.——Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, dan nawdd ac awdurdod y Methodistiaid Calfinaidd, yn Ionawr, 1862, dan olygiaeth y Parch. T. Levi, Aberystwyth, ac argrephir ef gan y Meistri P. M. Evans a'i Fab, Treffynnon. Daw allan yn ddifwlch bob mis, a'r pris ydyw ceiniog. Mae y cyhoeddiad hwn, o'r cychwyniad hyd yn bresennol, yn parhau dan olygiaeth yr un golygydd, ac yn cael ei argraphu yn yr un swyddfa. Gellir dyweyd fod y cylchgrawn hwn wedi bod yn llwyddiant hollol. Ceir ynddo arlwyaeth amrywiol, dyddorol, eglur, a buddiol i'r plant bob mis, ac nid llawer a ellid gael yn mhlith ein cenedl cymhwysach at waith ymarferol o'r fath na'r golygydd llafurus. Cychwynodd gyda chylchrediad o ddeng mil, a deil ei gylchrediad yn awr oddeutu 40,000, ond bu, ar un adeg, yn cyrhaedd oddeutu 45,000. Derbynia gylchrediad yn mhlith bron bob teulu yn dal cysylltiad â'r cyfundeb sydd yn ei gyhoeddi, a derbynir of gan laweroedd o'r tu allan i'w gyffiniau enwadol ei hun." Llenyddiaeth Fy Ngwlad/Y Cylchgrawn i'r Plant
Erthyglau yn y categori "Trysorfa y Plant"
Dangosir isod 4 tudalen ymhlith cyfanswm o 4 sydd yn y categori hwn.