Ceiriog a Mynyddog/Diolchgarwch Aderyn

Gwnewch Bopeth yn Gymraeg Ceiriog a Mynyddog

gan Mynyddog


golygwyd gan John Morgan Edwards
Adgofion Dedwydd

DIOLCHGARWCH ADERYN.

DERYN bach
Yn y llwyn,
Gana'n fwyn,
Nes fy synnu gyda'i swyn;
Sain ei lais
Swyna lu,
Ar y gangen fry:
O! mae'r 'deryn wrth ei fodd
Pan yn diolch am bob rhodd,
Moliant yw'r
Nodau byw
Gana'r 'deryn gwiw;
Nid oes gofal dan ei fron,
Ysgafn beunydd ydyw hon,
Ac am gael fath galon iach,
Cana'r 'deryn bach.

Blentyn bach,
Cofia di'r
'Deryn cu
Gana ar y gangen fry,
Anfon cân
Lawn o dân
Tua'r nefoedd lân:
Fel y 'deryn bychan tlws
Sydd yn diolch wrth y drws,
Diolch wnawn
Am a gawn
Gyda chalon lawn;
Unwn oll mewn moliant byw
Am holl drugareddau Duw,
Canwn glôd â chalon iach
Fel y 'deryn bach.


Nodiadau

golygu