Categori:John Morgan Edwards

Roedd John Morgan Edwards (1868–1924) yn athro a phrifathro ysgol.

Gyrfa golygu

Roedd yn awdur nifer o lyfrau ac ef oedd dramodydd swyddogol cwmni Hughes a'i fab Wrecsam ar gyfer addasu nofelau Daniel Owen i'r llwyfan. Bu'n athro yn ysgolion sir Abermaw a'r Rhyl ac yn brifathro ysgol sir Treffynnon. Roedd yn frawd i Owen Morgan Edwards ac Edward Edwards.

Gyrfa fel llenor golygu

O 1892 bu'n colofnydd rheolaidd i'r papur newyddion Y Cymro a'r Cylchgrawn Cymru.

Pan ddechreuodd gyrfa JME fel athro, roedd dysgu'r Gymraeg mewn ysgolion yn ddatblygiad newydd. Roedd byrddau Arholiadau Lleol Rhydychen a Chaergrawnt, a bwrdd arholi Prifysgol Cymru newydd wneud y Gymraeg yn un o'u testunau arholiadau ysgol. Fel ei frodyr Owen ac Edward, roedd John yn gweld yr angen dybryd am werslyfrau i gynorthwyo dysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion, ac aeth ati i gyhoeddi rhai:—

Llyfryddiaeth golygu

  • Mabinogion O Lyfr Coch Hergest Llyfr I. Yn cynnwys Pwyll, Pendefig Dyfed; Branwen Ferch Llyr; Manawyddan Fab Llyr, a Math Fab Mathonwy wedi eu haddasu ar gyfer disgyblion ysgol a'r werin.
  • Mabinogion O Lyfr Coch Hergest Llyfr 2 Y rhamantau atodol i'r Pedair Cainc a Hanes Taliesin
  • Pieces for Translation. Casgliad o ddarnau llenyddol Cymraeg i ddisgyblion ceisio eu cyfieithu i'r Saesneg a darnau llenyddol Saesneg i'w cyfieithu i'r Gymraeg.
  • Dyddiau Ysgol— Detholion o Weithiau Daniel Owen, gyda Geirfa
  • Oriau Difyr— Ail ddetholiad o Waith Daniel Owen
  • Ceiriog a Mynyddog—Pigion allan o weithiau'r ddau fardd poblogaidd, gyda geirfa helaeth, cynllun wers i athro a disgybl, bywgraffiadau byrion, a darluniau
  • Perlau Awen Islwyn—Detholiad allan o weithiau Islwyn, gyda nodiadau, geirfa, a darluniau.
  • Y Seint Greal
  • Yng Ngwlad y Gwyddel—Teithlyfr am ymweliad yr awdur i'r Iwerddon
  • Hanes a chan / Story and song — Detholiad o Hanes a Barddoniaeth i Ieuenctid Cymru, Gartref, yn yr Ysgol, ac yn y Coleg; Gyda Geirfa
  • J. M Edwards oedd awdur y Gyfrol Flintshire yng nghyfres Cambridge County Geographies

Dramau seiliedig ar nofelau Daniel Owen golygu

  • Rhys Lewis (drama)
  • Gwen Tomos (drama)
  • Y Dreflan (drama)
  • Enoc Huws (drama)